Lefiticus 26:44-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i'w difetha, gan dorri fy nghyfamod รข hwynt: oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt.

45. Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd.

46. Dyma'r deddfau, a'r barnedigaethau, a'r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.

Lefiticus 26