Lefiticus 25:50-52 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

50. A chyfrifed â'i brynwr, o'r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jiwbili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi'r blynyddoedd; megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef.

51. Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny.

52. Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili, pan gyfrifo ag ef; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd.

Lefiticus 25