Lefiticus 25:36-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i'th frawd fyw gyda thi.

37. Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.

38. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.

39. A phan dlodo dy frawd gyda thi, a'i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.

40. Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi.

41. Yna aed oddi wrthyt ti, efe a'i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.

42. Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision.

43. Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw.

44. A chymer dy wasanaethwr, a'th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o'ch amgylch: ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch.

45. A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi, prynwch o'r rhai hyn, ac o'u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi, y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.

46. Ac etifeddwch hwynt i'ch plant ar eich ôl, i'w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.

47. A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi, ac i'th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a'i werthu ei hun i'r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn:

48. Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o'i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd;

49. Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr, a'i gollwng ef yn rhydd; neu un o'i gyfnesaf ef, o'i dylwyth ei hun, a'i gollwng yn rhydd; neu, os ei law a gyrraedd, gollynged efe ef ei hun.

50. A chyfrifed â'i brynwr, o'r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jiwbili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi'r blynyddoedd; megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef.

51. Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny.

52. Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili, pan gyfrifo ag ef; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd.

53. Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gydag ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.

54. Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn; yna aed allan flwyddyn y jiwbili, efe a'i blant gydag ef.

Lefiticus 25