32. Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i'r Lefiaid eu gollwng bob amser.
33. Ac os prŷn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel.
34. Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.
35. A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o'i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud.
36. Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i'th frawd fyw gyda thi.
37. Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.
38. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.
39. A phan dlodo dy frawd gyda thi, a'i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.
40. Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi.
41. Yna aed oddi wrthyt ti, efe a'i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.
42. Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision.
43. Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw.
44. A chymer dy wasanaethwr, a'th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o'ch amgylch: ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch.
45. A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi, prynwch o'r rhai hyn, ac o'u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi, y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.
46. Ac etifeddwch hwynt i'ch plant ar eich ôl, i'w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.
47. A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi, ac i'th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a'i werthu ei hun i'r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn:
48. Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o'i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd;