Lefiticus 25:30-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhaer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i'r neb a'i prynodd, ac i'w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jiwbili.

31. Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meysydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd.

32. Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i'r Lefiaid eu gollwng bob amser.

Lefiticus 25