Lefiticus 25:29-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.

30. Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhaer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i'r neb a'i prynodd, ac i'w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jiwbili.

31. Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meysydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd.

32. Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i'r Lefiaid eu gollwng bob amser.

33. Ac os prŷn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel.

34. Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.

35. A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o'i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud.

36. Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i'th frawd fyw gyda thi.

37. Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.

Lefiticus 25