28. Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a'i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili; ac yn y jiwbili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel i'w etifeddiaeth.
29. A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.
30. Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhaer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i'r neb a'i prynodd, ac i'w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jiwbili.
31. Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meysydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd.
32. Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i'r Lefiaid eu gollwng bob amser.
33. Ac os prŷn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel.
34. Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.
35. A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o'i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud.
36. Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i'th frawd fyw gyda thi.
37. Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.
38. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.
39. A phan dlodo dy frawd gyda thi, a'i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.
40. Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi.
41. Yna aed oddi wrthyt ti, efe a'i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.
42. Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision.
43. Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw.