Lefiticus 25:13-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth.

14. Pan werthech ddim i'th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd.

15. Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi'r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau.

16. Yn ôl amldra'r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra'r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi'r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti.

17. Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.

18. Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel.

19. Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwyta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel.

20. Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd:

21. Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd.

22. A'r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwytewch o'r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, y bwytewch o'r hen.

23. A'r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi.

Lefiticus 25