Lefiticus 25:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i'r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i'r Arglwydd.

3. Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd.

4. Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i'r tir, sef Saboth i'r Arglwydd: na heua dy faes, ac na thor dy winllan.

Lefiticus 25