Lefiticus 25:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i'r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i'r Arglwydd.

3. Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd.

4. Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i'r tir, sef Saboth i'r Arglwydd: na heua dy faes, ac na thor dy winllan.

5. Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist: bydd yn flwyddyn orffwystra i'r tir.

6. Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i'th wasanaethwr, ac i'th wasanaethferch, ac i'th weinidog cyflog, ac i'th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi.

7. I'th anifail hefyd, ac i'r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.

8. Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.

9. Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad.

10. A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i'w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu.

11. Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd.

12. Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o'r maes y bwytewch ei ffrwyth hi.

13. O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth.

14. Pan werthech ddim i'th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd.

Lefiticus 25