Lefiticus 24:7-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

8. Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel.

9. A bydd eiddo Aaron a'i feibion; a hwy a'i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol.

10. A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o'r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll.

11. A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.

12. A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent.

13. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

14. Dwg y cablydd i'r tu allan i'r gwersyll: a rhodded pawb a'i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef.

15. A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod.

16. A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a'r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.

17. A'r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.

18. A'r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.

19. A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:

20. Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.

21. A'r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir.

22. Bydded un farn i chwi; bydded i'r dieithr, fel i'r priodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.

Lefiticus 24