15. A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod.
16. A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a'r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
17. A'r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.
18. A'r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.
19. A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:
20. Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.
21. A'r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir.
22. Bydded un farn i chwi; bydded i'r dieithr, fel i'r priodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.
23. A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i'r tu allan i'r gwersyll, ac a'i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.