Lefiticus 24:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i'r goleuni, i beri i'r lampau gynnau bob amser.

3. O'r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.

4. Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.

5. A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.

6. A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr Arglwydd.

7. A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

8. Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel.

9. A bydd eiddo Aaron a'i feibion; a hwy a'i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol.

10. A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o'r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll.

11. A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.

12. A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent.

13. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

14. Dwg y cablydd i'r tu allan i'r gwersyll: a rhodded pawb a'i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef.

15. A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod.

16. A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a'r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.

Lefiticus 24