Lefiticus 21:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl, i'w aflanhau ei hun.

5. Na wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd.

6. Sanctaidd fyddant i'w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd.

7. Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i'w Dduw.

Lefiticus 21