Lefiticus 21:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl.

2. Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd,

3. Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: am honno y gall ymhalogi.

4. Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl, i'w aflanhau ei hun.

5. Na wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd.

6. Sanctaidd fyddant i'w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd.

7. Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i'w Dduw.

8. A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.

9. Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân.

10. A'r offeiriad pennaf o'i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew'r eneiniad ar ei ben, ac a gysegrwyd i wisgo'r gwisgoedd, na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad:

11. Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam:

12. Ac nac aed allan o'r cysegr, ac na haloged gysegr ei Dduw; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd.

13. A chymered efe wraig yn ei morwyndod.

14. Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o'i bobl ei hun yn wraig.

15. Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.

16. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

Lefiticus 21