Lefiticus 2:6-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.

7. Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.

8. A dwg i'r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o'r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.

9. A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o'r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

10. A bydded i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.

11. Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i'r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r Arglwydd.

12. Offrymwch i'r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.

13. Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.

14. Ac os offrymi i'r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf.

15. A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw.

16. A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus: offrwm tanllyd i'r Arglwydd yw.

Lefiticus 2