Lefiticus 19:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.

3. Ofnwch bob un ei fam, a'i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

4. Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

Lefiticus 19