Lefiticus 16:6-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ.

7. A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

8. A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a'r coelbren arall dros y bwch dihangol.

9. A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth.

10. A'r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod ag ef, ac i'w ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.

11. A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun:

12. A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:

13. A rhodded yr arogl‐darth ar y tân, gerbron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw:

14. A chymered o waed y bustach, a thaenelled â'i fys ar y drugareddfa tua'r dwyrain: a saith waith y taenella efe o'r gwaed â'i fys o flaen y drugareddfa.

15. Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â'i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:

16. A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt.

17. Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel.

18. Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.

19. A thaenelled arni o'r gwaed seithwaith â'i fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.

20. A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a'r allor, dyged y bwch byw:

21. A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a'u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i'r anialwch.

22. A'r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i'r anialwch.

Lefiticus 16