21. A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a'u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i'r anialwch.
22. A'r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i'r anialwch.
23. Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i'r cysegr, a gadawed hwynt yno.
24. A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl.
25. A llosged wêr y pech‐aberth ar yr allor.
26. A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i'r gwersyll.
27. A bustach y pech‐aberth, a bwch y pech‐aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i'r tu allan i'r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a'u cnawd, a'u biswail, yn tân.
28. A golched yr hwn a'u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i'r gwersyll.
29. A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a'r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.
30. Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i'ch glanhau o'ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd.
31. Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol.
32. A'r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a'r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna'r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd:
33. Ac a lanha'r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a'r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa.
34. A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.