6. A'r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
7. A'r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
8. A phan boero'r diferllyd ar un glân, golched hwnnw ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
9. Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo'r diferllyd ynddo.
10. A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano, bydd aflan hyd yr hwyr: a'r hwn a'u dyco hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
11. A phwy bynnag y cyffyrddo'r diferllyd ag ef, heb olchi ei ddwylo mewn dwfr, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
12. A'r llestr pridd y cyffyrddo'r diferllyd ag ef, a ddryllir: a phob llestr pren a olchir mewn dwfr.
13. A phan lanheir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif; yna cyfrifed iddo saith niwrnod i'w lanhau, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog, a glân fydd.
14. A'r wythfed dydd cymered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a deued gerbron yr Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i'r offeiriad.