Lefiticus 15:30-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr Arglwydd, am ddiferlif ei haflendid.

31. Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg.

32. Dyma gyfraith yr hwn y byddo'r diferlif arno, a'r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had, fel y byddo aflan o'u herwydd;

Lefiticus 15