Lefiticus 15:20-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A'r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth, fydd aflan; a'r hyn oll yr eisteddo hi arno, a fydd aflan.

21. A phwy bynnag a gyffyrddo â'i gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

22. A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

23. Ac os ar y gwely y bydd efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd ag ef; hyd yr hwyr y bydd efe aflan.

24. Ond os gŵr gan gysgu a gwsg gyda hi, fel y byddo o'i misglwyf hi arno ef; aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno.

25. A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.

26. Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif, fydd iddi fel gwely ei misglwyf; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan, megis aflendid ei misglwyf hi.

27. A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt, aflan fydd; a golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

28. Ac os glanheir hi o'i diferlif; yna cyfrifed iddi saith niwrnod: ac wedi hynny glân fydd.

29. A'r wythfed dydd cymered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

30. Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr Arglwydd, am ddiferlif ei haflendid.

31. Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg.

Lefiticus 15