1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
2. Llefarwch wrth feibion Israel, a dywedwch wrthynt, Pob un pan fyddo diferlif yn rhedeg o'i gnawd, a fydd aflan oblegid ei ddiferlif.
3. A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif: os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif, neu ymatal o'i gnawd ef oddi wrth ei ddiferlif; ei aflendid ef yw hyn.
4. Pob gwely y gorweddo ynddo un diferllyd, a fydd aflan; ac aflan fydd pob peth yr eisteddo efe arno.
5. A'r neb a gyffyrddo â'i wely ef, golched ei ddillad, ac ymdroched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
6. A'r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
7. A'r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.