Lefiticus 14:52-57 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

52. A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â'r dwfr rhedegog, ac â'r aderyn byw, ac â'r coed cedr, ac â'r isop, ac â'r ysgarlad.

53. A gollynged yr aderyn byw allan o'r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd.

54. Dyma gyfraith am bob pla'r clwyf gwahanol, ac am y ddufrech,

55. Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ,

56. Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb;

57. I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.

Lefiticus 14