Lefiticus 14:29-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. A'r rhan arall o'r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd.

30. Yna offrymed un o'r turturau, neu o'r cywion colomennod, sef o'r rhai a gyrhaeddo ei law ef;

31. Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwyd‐offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd.

32. Dyma gyfraith yr un y byddo pla'r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i'w lanhad.

33. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

34. Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant;

35. A dyfod o'r hwn biau'r tŷ, a dangos i'r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:

36. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi'r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ;

37. Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a'r olwg arnynt yn is na'r pared;

38. Yna aed yr offeiriad allan o'r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.

39. A'r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ;

40. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu'r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o'r ddinas i le aflan.

41. A phared grafu'r tŷ o'i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o'r tu allan i'r ddinas i le aflan.

42. A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ.

43. Ond os daw'r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu'r cerrig, ac wedi crafu'r tŷ, ac wedi priddo;

44. Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.

45. Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a'i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i'r tu allan i'r ddinas i le aflan.

46. A'r hwn a ddêl i'r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.

Lefiticus 14