24. A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
25. A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.
26. A thywallted yr offeiriad o'r olew ar gledr ei law aswy ei hun:
27. Ac รข'i fys deau taenelled yr offeiriad o'r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr Arglwydd.
28. A rhodded yr offeiriad o'r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd.
29. A'r rhan arall o'r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd.
30. Yna offrymed un o'r turturau, neu o'r cywion colomennod, sef o'r rhai a gyrhaeddo ei law ef;