1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. Dyger ef at yr offeiriad:
3. A'r offeiriad a ddaw allan o'r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla'r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus;
4. Yna gorchmynned yr offeiriad i'r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.
5. A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.
6. A chymered efe yr aderyn byw, a'r coed cedr, a'r ysgarlad, a'r isop, a throched hwynt a'r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.