43. Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch, yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef, fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd;
44. Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw, aflan yw; a'r offeiriad a'i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla.
45. A'r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a'i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.
46. Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o'r gwersyll.
47. Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llin,
48. Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;
49. Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla'r gwahanglwyf yw efe; a dangoser ef i'r offeiriad.
50. Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaeed ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.
51. A'r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahanglwyf ysol yw y pla; aflan yw.
52. Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlân, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahanglwyf ysol yw efe; llosger yn tân.
53. Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;
54. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaeed arno saith niwrnod eilwaith.
55. Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan; llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o'r tu mewn ai o'r tu allan.
56. Ac os edrych yr offeiriad; ac wele'r pla yn odywyll, ar ôl ei olchi; yna torred ef allan o'r dilledyn, neu o'r croen, neu o'r ystof, neu o'r anwe.
57. Ond os gwelir ef eto yn y dilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân.
58. A'r dilledyn, neu yr ystof, neu yr anwe, neu pa beth bynnag o groen, y rhai a olcher, os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eilwaith; a glân fydd.
59. Dyma gyfraith pla gwahanglwyf, mewn dilledyn gwlân, neu lin, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, i'w farnu yn lân, neu i'w farnu yn aflan.