Lefiticus 13:39-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os bydd yng nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwynion wedi gordduo; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen: glân yw efe.

40. A gŵr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; eto glân fydd.

41. Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd talfoel; eto glân fydd efe.

42. Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef.

43. Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch, yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef, fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd;

44. Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw, aflan yw; a'r offeiriad a'i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla.

45. A'r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a'i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.

46. Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o'r gwersyll.

47. Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llin,

48. Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;

49. Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla'r gwahanglwyf yw efe; a dangoser ef i'r offeiriad.

50. Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaeed ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.

51. A'r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahanglwyf ysol yw y pla; aflan yw.

52. Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlân, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahanglwyf ysol yw efe; llosger yn tân.

53. Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;

54. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaeed arno saith niwrnod eilwaith.

Lefiticus 13