Lefiticus 12:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan.

3. A'r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef.

4. A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded รข dim sanctaidd, ac na ddeued i'r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.

5. Ond os ar fenyw yr esgor hi; yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth.

Lefiticus 12