Lefiticus 11:39-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Ac os bydd marw un anifail a'r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â'i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.

40. A'r hwn a fwyty o'i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a'r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.

41. A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd‐dra: na fwytaer ef.

42. Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd‐dra ydynt.

43. Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o'u plegid, fel y byddech aflan o'u herwydd.

44. Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

45. Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a'ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.

46. Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a'r ehediaid, a phob peth byw a'r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a'r sydd yn ymlusgo ar y ddaear;

47. I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a'r hwn nis bwyteir.

Lefiticus 11