22. O'r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a'r selam yn ei ryw, a'r hargol yn ei ryw, a'r hagab yn ei ryw.
23. A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd‐dra fydd i chwi.
24. Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â'u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.
25. A phwy bynnag a ddygo ddim o'u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
26. Am bob anifail fydd yn hollti'r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.
27. Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.
28. A'r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.
29. A'r rhai hyn sydd aflan i chwi o'r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a'r llygoden, a'r llyffant yn ei ryw;
30. A'r draenog, a'r lysard, a'r ystelio, a'r falwoden, a'r wadd.
31. Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.
32. A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân.
33. A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o'r rhai hyn i'w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o'i fewn; a thorrwch yntau.
34. Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o'r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan.
35. Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o'u burgyn arno; y ffwrn a'r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.
36. Eto glân fydd y ffynnon a'r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan.
37. Ac os syrth dim o'u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.
38. Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o'u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi.
39. Ac os bydd marw un anifail a'r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â'i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.
40. A'r hwn a fwyty o'i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a'r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.