14. A'r fwltur, a'r barcud yn ei ryw;
15. Pob cigfran yn ei rhyw;
16. A chyw'r estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r gwalch yn ei ryw;
17. Ac aderyn y cyrff, a'r fulfran, a'r dylluan,
18. A'r gogfran, a'r pelican, a'r biogen,
19. A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.
20. Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd‐dra yw i chwi.
21. Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;
22. O'r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a'r selam yn ei ryw, a'r hargol yn ei ryw, a'r hagab yn ei ryw.
23. A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd‐dra fydd i chwi.
24. Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â'u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.
25. A phwy bynnag a ddygo ddim o'u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
26. Am bob anifail fydd yn hollti'r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.
27. Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.