Lefiticus 11:12-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.

13. A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd‐dra ydynt: sef yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol;

14. A'r fwltur, a'r barcud yn ei ryw;

15. Pob cigfran yn ei rhyw;

16. A chyw'r estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r gwalch yn ei ryw;

17. Ac aderyn y cyrff, a'r fulfran, a'r dylluan,

18. A'r gogfran, a'r pelican, a'r biogen,

Lefiticus 11