Lefiticus 11:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.

11. Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o'u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.

12. Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.

13. A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd‐dra ydynt: sef yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol;

14. A'r fwltur, a'r barcud yn ei ryw;

15. Pob cigfran yn ei rhyw;

16. A chyw'r estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r gwalch yn ei ryw;

17. Ac aderyn y cyrff, a'r fulfran, a'r dylluan,

18. A'r gogfran, a'r pelican, a'r biogen,

19. A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.

20. Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd‐dra yw i chwi.

21. Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;

Lefiticus 11