Jwdas 1:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i'r Arglwydd, wedi iddo waredu'r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant.

6. Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.

7. Megis y mae Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.

8. Yr un ffunud hefyd y mae'r breuddwydwyr hyn yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu'r rhai sydd mewn awdurdod.

9. Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.

10. Eithr y rhai hyn sydd yn cablu'r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.

11. Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng ngwrthddywediad Core.

12. Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;

13. Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.

14. Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint,

Jwdas 1