Jwdas 1:10-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Eithr y rhai hyn sydd yn cablu'r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.

11. Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng ngwrthddywediad Core.

12. Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;

13. Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.

14. Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint,

15. I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi'r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.

16. Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd.

17. Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;

18. Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.

19. Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt.

20. Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân,

21. Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.

22. A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:

23. Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.

24. Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a'ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,

25. I'r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Jwdas 1