Jwdas 1:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:

2. Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger.

3. Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint.

4. Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i'r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu'r unig Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist.

Jwdas 1