11. Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i'r daith, ac ewch i'w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni.
12. Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o'n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.
13. Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a'n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.
14. A'r gwŷr a gymerasant o'u hymborth hwynt, ac nid ymgyngorasant â genau yr Arglwydd.
15. Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfamod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.
16. Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt, hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.
17. A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i'w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a'u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Cheffira, Beeroth hefyd, a Chiriathjearim.
18. Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy; oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel: a'r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.
19. A'r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
20. Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt.
21. A'r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i'r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai'r tywysogion wrthynt.
22. Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
23. Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.