1. Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd‐beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o'r diofryd‐beth: ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel.
2. A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du'r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A'r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai.
3. A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.
4. Felly fe a aeth o'r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai.
5. A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a'u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.
6. A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
7. A dywedodd Josua, Ah, ah, O Arglwydd IOR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i'n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i'r Iorddonen!
8. O Arglwydd, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion!
9. Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a'n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i'th enw mawr?