5. A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.
6. A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd.
7. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.
8. A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â'r utgyrn: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt.
9. A'r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â'r utgyrn; a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.
10. A Josua a orchmynasai i'r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o'ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.
11. Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o'i hamgylch un waith: a daethant i'r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.
12. A Josua a gyfododd yn fore; a'r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd.
13. A'r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â'r utgyrn: a'r rhai arfog oedd yn myned o'u blaen hwynt: a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.
14. Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i'r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.
15. Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.
16. A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.
17. A'r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a'r hyn oll sydd ynddi, i'r Arglwydd: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.