4. A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a'r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â'r utgyrn.
5. A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.
6. A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd.
7. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.
8. A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â'r utgyrn: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt.
9. A'r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â'r utgyrn; a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.