27. A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
28. Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i'w etifeddiaeth.
29. Ac wedi'r pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.
30. A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.