16. Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dieithr;
17. Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a'n dug ni i fyny a'n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a'r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a'n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:
18. A'r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a'r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o'n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd; canys efe yw ein Duw ni.
19. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na'ch pechodau.
20. O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a'ch dryga chwi, ac efe a'ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.
21. A'r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.
22. A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.
23. Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.
24. A'r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.
25. Felly Josua a wnaeth gyfamod â'r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.
26. A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymerth faen mawr, ac a'i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd.
27. A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
28. Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i'w etifeddiaeth.
29. Ac wedi'r pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.