13. A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o'r gwinllannoedd a'r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.
14. Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o'r tu hwnt i'r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
15. Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.
16. Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dieithr;
17. Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a'n dug ni i fyny a'n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a'r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a'n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:
18. A'r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a'r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o'n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd; canys efe yw ein Duw ni.
19. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na'ch pechodau.
20. O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a'ch dryga chwi, ac efe a'ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.
21. A'r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.
22. A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.
23. Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.