Josua 24:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron Duw.

2. A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i'r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.

3. Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o'r tu hwnt i'r afon, ac a'i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.

4. Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i'w etifeddu; ond Jacob a'i feibion a aethant i waered i'r Aifft.

5. A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,

6. Ac a ddygais eich tadau chwi allan o'r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a'r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.

7. A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a'r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a'u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.

8. A mi a'ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i'ch erbyn: a myfi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a'u difethais hwynt o'ch blaen chwi.

9. Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i'ch melltigo chwi.

10. Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o'i law ef.

Josua 24