Josua 23:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.

9. Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o'ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.

10. Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.

11. Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw.

Josua 23