9. A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o'r Arglwydd i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.
10. Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o'ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o'r Aifft; a'r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
11. A phan glywsom, yna y'n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.
12. Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr Arglwydd, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:
13. Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a'm mam, a'm brodyr, a'm chwiorydd, a'r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.
14. A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
15. Yna hi a'u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy'r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.
16. A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r mynydd, rhag i'r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i'ch ffordd.
17. A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â'r hwn y'n tyngaist.
18. Wele, pan ddelom ni i'r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a'th fam, a'th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i'r tŷ yma.
19. A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i'r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.