2. A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio'r wlad.
3. A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i'th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.
4. Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a'u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.
5. A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a'u goddiweddwch hwynt.
6. Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a'u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.
7. A'r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua'r Iorddonen, hyd y rhydau: a'r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.
8. A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ:
9. A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o'r Arglwydd i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.
10. Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o'ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o'r Aifft; a'r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
11. A phan glywsom, yna y'n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.
12. Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr Arglwydd, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:
13. Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a'm mam, a'm brodyr, a'm chwiorydd, a'r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.