Josua 17:8-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim.

9. A'r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i'r afon, a'i ddiwedd oedd y môr.

10. Y deau oedd eiddo Effraim, a'r gogledd eiddo Manasse; a'r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o'r gogledd; ac yn Issachar, o'r dwyrain.

11. Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth‐sean a'i threfydd, ac Ibleam a'i threfydd, a thrigolion Dor a'i threfydd, a thrigolion En‐dor a'i threfydd, a phreswylwyr Taanach a'i threfydd, a thrigolion Megido a'i threfydd; tair talaith.

12. Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.

13. Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.

14. A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i'r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio?

Josua 17